Fe fydd y drefn fydd yn cael ei defnyddio i ethol arweinydd newydd Llafur Cymru’n cael ei phenderfynu mewn cynhadledd arbennig.

Bydd Carwyn Jones yn camu o’r neilltu ym mis Rhagfyr.

O dan y drefn bresennol, ni fyddai angen i’w olynydd ennill mwyafrif o blith aelodau’r blaid er mwyn dod yn arweinydd.

Yn ôl rhai, byddai’r drefn o ‘un aelod un bleidlais’ yn decach.

Fe fydd yr Arglwydd Murphy yn arwain adolygiad o’r drefn bresennol yng Nghymru, ac mae disgwyl i benderfyniad gael ei wneud yn derfynol ym mis Medi.

Ar hyn o bryd, dim ond yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford sydd wedi cael digon o gefnogaeth i fod yn ymgeisydd, ond mae’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething hefyd wedi mynegi diddordeb yn y swydd.

Cymru v Prydain

Un aelod, un bleidlais yw’r drefn sy’n cael ei defnyddio gan Lafur Prydain ers 2015, ond mae’r coleg etholiadol yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru.

Yn ôl trefn y coleg etholiadol, mae’r bleidlais wedi’i rhannu’n dair – Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad, aelodau’r blaid, ac undebau a grwpiau cysylltiedig – a phob un o’r rhain yn cyfrif am draean o’r bleidlais yr un.

Mae’r drefn ‘un aelod, un bleidlais’ yn golygu bod pob pleidlais yn gyfwerth â’i gilydd ac mae’n cael ei hystyried yn drefn decach.

Ond mae cefnogwyr y coleg etholiadol yn dweud bod y drefn honno’n adlewyrchu cysylltiadau’r blaid â’r undebau llafur.