“Mae’n rhaid i ni atgoffa’n hunain yn gyson o’n gorffennol ein hunain,” meddai deilydd record byd a gafodd ei magu yn Abertawe.

Yn 86 mlwydd oed, Dilys Price yw plymiwr awyr benywaidd hynaf y byd a dros y penwythnos hwn, mi fydd hi’n llysgennad mewn digwyddiad arbennig, PROCESSIONS, yn y brifddinas i ddathlu canrif ers i ferched gael yr hawl i bleidleisio.

Gan ddechrau yn Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd rhwng 2 a 2.30 ddydd Sul, mi fydd hi’n ymuno â degau o filoedd o fenywod eraill ar orymdaith i Barc Bute – taith dwy filltir o hyd.

“Stori”

Mae Dilys Price yn “hynod o gyffrous” am orymdaith ddydd Sul (Mehefin 10) ac yn edrych ymlaen at gael y cyfle i “adrodd” stori’r Swffragetiaid trwy’r digwyddiad.

“Mae’n rhan o hanes ein cenedl,” meddai wrth golwg360. “Stori a fydd yn helpu ni fod yn bositif, a dewr, am y pethau iawn.

“Rydym yn byw mewn oes lle rydym yn cael ein bombardio gyda gwybodaeth, ac mae’n pennau’n llawn gwybodaeth. Felly mae’n rhaid i ni ail ffurfio’r hanes yma, mewn ffordd wahanol.

“Yn y gorffennol, byddwn ni wedi gwneud hyn trwy straeon a chaneuon, a thrwy eistedd o gwmpas y tân â’n gilydd. Felly rhaid adrodd y stori mewn ffordd wahanol.”

Dilys Price

Mae Dilys Price wedi bod yn neidio o awyrennau ers pan oedd hi’n 54 mlwydd oed ac erbyn hyn, mae hi wedi ‘plymio’ rhyw 1,139 o weithiau.

Ymgais i godi arian ar gyfer gweithgareddau grŵp anabl oedd ei naid gyntaf. “Ges i gymaint o ofn,” meddai am y naid honno.