Mae’r heddlu’n ymchwilio i farwolaeth plentyn mewn eiddo yng Nghwm Rhondda.

Cawson nhw eu galw i ardal Trealaw am oddeutu 10.20 nos Wener, a chael hyd i’r plentyn yn farw.

Ar hyn o bryd, does ganddyn nhw ddim esboniad am ei farwolaeth.

Mae dynes 37 oed wedi cael ei harestio, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa ym Merthyr Tudful.

Mae’r heddlu wedi cau ffordd B4278 yn Nhrealaw wrth i’r ymchwiliad barhau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.