Fe ymunodd cyn Arlywydd Madagascar mewn dathliadau i gofio am genhadon a aeth o Gymru i’r ynys 200 mlynedd yn ôl ac i symud beddrod un ohonyn nhw o Fachynlleth i Geredigion.

Marc Ravalamonana, a fu’n arlywydd ar y wlad rhwng 2002 a 2009, a gafodd y gwaith o ddadorchuddio beddrod y cenhadwr David Griffiths a’i wraig Mary ym mynwent Neuadd-lwyd ger Aberaeron.

Roedd yr ymweliad yn un “emosiynol ddwfn ac yn llawn ystyr,” meddai’r gwleidydd sydd hefyd yn Gristion ac roedd yn “fraint bod yno”.

Dathlu cenhadon

Dadorchuddio’r beddrod oedd un o’r uchafbwyntiau wrth i ddegau o bobol o Fadagascar ddod i Gymru i ddathlu 200 mlwyddiant sefydlu’r genhadaeth yno.

Roedd David Griffiths yn un o bedwar cenhadwr ifanc a aeth o gapel ac ysgol Neuadd-lwyd i Fadagascar ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Nhw sy’n cael y clod am sefydlu Cristnogaeth yno, am roi trefn ysgrifenedig ar yr iaith, am gyfieithu’r Beibl i Falagaseg ac am osod sylfeini system addysg i’r wlad.

Erbyn hyn mae tua hanner pobol Madagascar yn Gristnogion ac maen nhw’n anfon cenhadon i Gymru, i weithio ym Mhenrhys yn y Rhondda.

Symud y beddrod

Roedd y beddrod yn cael ei symud o Fachynlleth yn sgil cau a gwerthu Capel y Graig yno, meddai Ysgirfennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Geraint Tudur.

Mae bellach y drws nesa’ i fedd Thomas Phillips, yr athro oedd wedi ysbrydoli’r pedwar cenhadwr cynnar yn ei ysgol gerllaw’r capel.

Roedd y ddau genhadwr cynta’, Thomas Bevan a David Jones, wedi cael eu magu o fewn tafliad carreg i’r capel bach yn Nyffryn Aeron ac fe gyrhaeddon nhw Madagascar ym mis Awst 1818.

Cyd-ganu mewn dwy iaith

Roedd un eiliad emosiynol annisgwyl yn y fynwent wrth i Geraitn Tudur ofyn, heb rybudd, i’r cynrychiolwyr o Fadagascar ganu emyn.

Fe ddechreuon nhw ganu ‘Mi Glywaf Dyner Lais’ yn y Falagaseg ac fe ymunodd y Cymry i ganu’r emyn yn Gymraeg.

“Fe allwch chi ddysgu o lyfrau hanes ond mae’n whanol cael y cyfle i weld y lleoedd sydd mor bwysig yn hanes yr eglwys ym Madagascar,” meddai Marc Ravalomanana.

Cyfres o ddigwyddiadau

Roedd y dadorchuddio’n rhan o gyfres o  ddigwyddiadau i gofio dechrau’r genhadaeth – fe fydd sioe lwyfan heno yn dweud yr hanes ac mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn cynnal cyfarfodydd a gweithdai yn Aberaeron tros y Sul.

Mae apêl yn cael ei lansio hefyd i godi arian i leddfu tlodi a phroblemau cymdeithasol Madagascar sy’n un o’r deg gwlad dlota’ yn y byd.