Mae cynghorydd sir yn nhre’ Llanelli, sy’n byw yn yr ardal lle mae pla pryfed wedi bod yn achosi problemau, yn dweud bod yr wythnosau diwetha’ wedi bod yn “uffern”.

Ers rhyw dair wythnos bellach, mae pobol leol yn ardal Glanymor, Llanelli, wedi gorfod brwydro yn erbyn pla o bryfed nad oedd neb, yn wreiddiol, yn gwybod o ble ddaethon nhw.

Ond erbyn hyn, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cadarnhau eu bod nhw wedi darganfod un ffynhonnell bosib, ac mae canolfan ailgylchu leol yn un o’r mannau sy’n cael eu hymchwilio ganddyn nhw.

Y broblem yn parhau

 Yn ôl y John Prosser, y cynghorydd sir dros ward Glanymor, mae’r pla o bryfed yn dal i boeni’r trigolion lleol, er gwaetha’r ffaith bod ffynhonnell posib i’r broblem wedi’i darganfod.

“Mae yna dal pryfed yma, ac maen nhw’n dweud y bydd yn cymryd tua phedwar i bum diwrnod o’r driniaeth cyn y bydd y pla’n cael ei lladd,” meddai wrth golwg360.

“Rydyn ni dal yn rhoi gwasanaethau ychwanegol [fel cynghorwyr], ac wedi cael nifer o alwadau i gartrefi pobol…

“Fe es i draw i un tŷ lle’r oedd carped y stafell fyw yn wirioneddol yn fyw – roedd e’n symud.

“Mae pobol wedi bod trwy uffern. Mae’n hunllef.”

Galw am ymchwiliad

 Mae John Prosser yn ychwanegu ei fod yn “falch” bod swyddogion wedi dod o hyd i ffynhonnell posib, sy’n “gam ymlaen”, meddai.

Ond mae’n mynnu bod angen “atebion” ar drigolion lleol, a hynny ynglŷn â sut ddaeth y broblem i fod yn y lle cynta’.

“Y cam cynta’ oedd darganfod achos y broblem, ond nawr mae’n rhaid inni ddechrau ar y gwaith ymchwil.

“Rydym ni eisoes wedi gofyn pam nad oedd achos y broblem wedi’i ddarganfod ynghynt, gan inni gael yr un broblem y llynedd. A pha ymchwiliadau iechyd a diogelwch a gafodd eu cynnal yn y ganolfan ailgylchu?

“Mae trigolion lleol angen atebion, ac rydw i angen atebion, ac rydyn ni’n sicr ddim eisiau i hyn ddigwydd eto.”