Bydd degau o filoedd o fenywod yn ymgynnull yng Nghaerdydd dros y penwythnos er mwyn creu darn o waith celf byw.

‘PROCESSIONS’ yw enw’r digwyddiad a’r nod yw nodi can mlynedd ers i fenywod gwledydd Prydain ennill yr hawl i bleidleisio.

Bydd y menywod yn ymgynnull yn Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd ac yn gwisgo sgarffiau – naill ai sgarff porffor, gwyrdd neu wyn – gan efelychu baner y Swffragetiaid.

Yna, bydd y menywod yn gorymdeithio am ddwy filltir tuag at Barc Bute, gyda ffigyrau adnabyddus yn cymryd rhan.

Dilyn “olion troed”

Mae’r digwyddiad wedi’i gynhyrchu gan Artichoke a’i gomisiynu gan 14-18 NOW, ac mi fydd yn dechrau am 12.15, ddydd Sul (Mehefin 10).

“Wrth gerdded yn olion troed etholfreintwyr a’u rhagflaenyddion swffragetaidd, byddant yn creu delwedd fythgofiadwy i nodi canmlwyddiant y bleidlais i fenywod wrth lenwi strydoedd ein dinas mewn ffordd lawen a chynhwysol,” meddai Helen Marriage, Cyfarwyddwr, Artichoke.