Mae yna aelodau “rhwystredig ofnadwy yn rhengoedd Plaid Cymru” sy’n anhapus gyda’r Arweinydd, Leanne Wood.

Dyna’r honiad gan y newyddiadurwr Guto Harri wrth iddo gychwyn cyflwyno rhaglen wleidyddol newydd o’r enw Y Byd yn ei Le ar S4C yr wythnos nesaf.

Yn ystod y gyfres mae cyn-Brif Ohebydd Gwleidyddol y BBC yn addo “y byddwn ni’n clywed lleisiau gan bobol uchel iawn eu parch yn rhengoedd y Blaid sy’n credu bod angen arweinydd newydd”.

Adeg yr etholiad cyffredinol flwyddyn yn ôl, fe gynyddodd nifer Aelodau Seneddol y Blaid o 3 i 4.

Ond mae Guto Harri yn credu nad oedd hynny yn ddigon o gynnydd i fodloni pawb yn ei phlaid.

“Mae’n rhaid bod yna gwestiwn ar ôl yr etholiad cyffredinol diwethaf, a yw Leanne Wood yn haeddu cyfnod hirfaith arall wrth y llyw?

“Dw i ddim yn credu bod unrhyw arweinydd arall ar Blaid Cymru wedi cael ffracsiwn o’r cyhoeddusrwydd cafodd hi yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, ac ry’n ni gyd yn gwybod beth oedd y rhifyddeg [yn yr etholiad].

“Doedd e ddim yn torri tir newydd a fi’n gwybod bod pobol yn rhwystredig ofnadwy yn rhengoedd Plaid Cymru, sy’n credu bod angen iddyn nhw ddangos mwy o weledigaeth a mwy o wreiddioldeb a mwy o gyfeiriad strategol i geisio trechu’r Blaid Lafur, nid ei hefelychu hi.

“Gobeithio yn ystod y gyfres y gwnawn ni edrych ar hynna yn ogystal ag arweinyddiaeth y Blaid Lafur. Rydw i’n gwybod ac yn weddol hyderus yn y gyfres yma y byddwn ni’n clywed lleisiau gan bobol uchel iawn eu parch yn rhengoedd y Blaid sy’n credu bod angen arweinydd newydd.”

Canabis – achubiaeth amaeth?

Mwy gan Guto Harri yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg – “Ry’n ni’n gwneud eitem yn holi a ddylai Cymru fod yn meddwl am drio cyfreithloni canabis, dim jyst fel rhywbeth cyfraith a threfn, ond fel rhywbeth a allai roi hwb mawr i ffermwyr.”