Mae angen i Lywodraeth San Steffan fynd ati “ar fyrder” i roi eglurder ynglŷn â pherthynas gwledydd Prydain ag Ewrop yn dilyn Brexit.
Dyna yw rhybudd Prif Weinidog Cymru, wrth i ystadegau newydd ddangos bod 60.6% o allforion Cymru yn mynd i wledydd y cyfandir.
Dadl Carwyn Jones yw y gallai “ansicrwydd” Brexit gael effaith uniongyrchol ar allu busnesau yng Nghymru i allforio, ac mae’n galw ar y Llywodraeth i ddilyn “cyfeiriad clir”.
Yn ogystal, mae’n mynnu nad yw eu “dull o weithredu” hyd yma yn gweithio, ac yn galw ar Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, i “ailfeddwl ei thrywydd”.
Rhybudd
“Os bydd Brexit caled, bydd y wlad yn goroesi ond fydd hi ddim yn parhau i ffynnu,” meddai Carwyn Jones, meddai cyn cyfeirio at ffigurau allforio Cymru – bu twf 7% o eleni.
“Bydd ffigurau allforio fel y rhai rydyn ni’n eu dathlu heddiw yn gostwng; bydd llai o dwf, llai o fuddsoddi, llai o swyddi a lleihad mewn incwm.
“Nid cwyno yw hyn, na chodi bwganod – yn hytrach, dyna mae ffigurau’r Llywodraeth ei hun yn ei ddangos yn ddigamsyniol.”