Mae dyn 23 oed o ardal Casnewydd wedi’i gyhuddo o droseddau casineb.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gafodd y gwr ei arestio ar amheuaeth o gynnau tanau bwriaol, achosi difrod troseddol gyda chymhelliant hiliol, ac o aflonyddu ar bobol oherwydd eu hil a’u cred.

Roedd hefyd yn cael ei amau o arddangos deunydd ysgrifenedig o natur fygythiol.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd heddiw (Mehefin 7).