Mae hyd at 6,000 o swyddi dan fygythiad ar ôl i siop gadwyn House of Fraser gyhoeddi bod 31 o’i 59 o siopau yn cael eu cau ar draws gwledydd Prydain ac Iwerddon fel rhan o gynllun i achub y busnes.

Ymhlith y siopau hynny y mae dwy yng Nghymru – yng Nghwmbrân ac yng Nghaerdydd.

Dywed House of Fraser fod y cynllun, sy’n cynnwys cau siop Oxford Street yn Llundain, yn dod fel rhan o drefniant gwirfoddol cwmni (CVA).

Os cymeradwyir y trefniant gwirfoddol gan landlordiaid, bydd yn effeithio ar hyd at 2,000 o staff House of Fraser a 4,000 arall ar draws y brand. Y bwriad yw cadw’r siopau i gyd yn agored tan ddechrau 2019.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn un o’r rhai pwysicaf yn hanes 169 mlynedd y cwmni hwn,” meddai Alex Williamson, prif weithredwr House of Fraser.

“Rydyn ni, fel tîm rheoli, yn gyfrifol am gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau goroesiad House of Fraser, a dyna pam yr ydyn ni’n gwneud y cynigion hyn.

“Rydyn ni’n gwbwl ymrwymedig i gefnogi’r rheiny sy’n cael eu heffeithio’n bersonol gan y cynigion.”