Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates wedi croesawu’r newyddion y bydd agor pencadlys dau gwmni trenau yng Nghymru yn arwain at oddeutu 130 o swyddi newydd.

Fe fydd cwmnïau Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru yn agor swyddfeydd ar ôl i KeolisAmey ddisodli Arriva Cymru fel prif ddarparwr gwasanaethau trenau yng Nghymru.

Bydd KeolisAmey nawr yn symud o Lundain erbyn 2019, ac yn symud canolfan arall o Paris i Gymru erbyn 2020.

Ac fe fydd Amey yn agor canolfan newydd sbon yng Nghymru i gynnig gwasanaethau cynghori, a chanolfan gyswllt i gwsmeriaid.

Fe gafodd 600 o swyddi a 300 o brentisiaethau’r cwmni eu cyhoeddi ddechrau’r wythnos.

Ymateb

“Yn unol â’n Contract Economaidd, mae buddsoddiad cyhoeddus gyda phwrpas cymdeithasol yn ganolog i’n dull newydd o fynd i’r afael â rheilffyrdd, ac rwy’n falch y bydd y contract rheilffyrdd newydd yn cynnig manteision gwirioneddol a sylweddol i Gymru,” meddai Ken Skates.

“Mae’r penderfyniad gan y cwmnïau rhyngwladol Keolis ac Amey i leoli dau bencadlys a dwy swyddfa newydd rhyngddynt yng Nghymru yn newyddion gwych, ac yn rhywbeth rydym yn rhagweld fydd yn rhoi hwb economaidd sylweddol, gan ddechrau gyda chreu 130 yn rhagor o swyddi o safon uchel – yn ychwanegol i’r 600 o swyddi a gyhoeddwyd yn gynharach yn yr wythnos.

“Yn ogystal â’r newyddion yn gynharach eleni y bydd mwyafrif y trenau newydd yn cael eu gosod at ei gilydd yng Nghasnewydd gan y cwmni o Sbaen, CAF, a fydd yn dod â’u canolfan gweithgynhyrchu newydd i Gymru, does dim amheuaeth y bydd y contract rheilffyrdd newydd yn darparu nid yn unig wasanaethau rheilffyrdd gwell ond hefyd fanteision economaidd sylweddol i Gymru.”