Mae’r cyn-joci, Sam Thomas, wedi talu teyrnged i Denman, y ceffyl a’i cariodd i fuddugoliaeth yn y Cheltenham Gold Cup yn 2008. Bu farw’r ceffyl

Daeth llwyddiant mwya’r joci o’r Fenni yn un o brif rasus y calendr pan gipiodd e fuddugoliaeth swmpus dros Kauto Star ddegawd yn ôl.

Fe wnaeth e farchogaeth y ceffyl wyth gwaith allan o 24 ras, gan gipio’r Hennessy Gold Cup yn Newbury yn 2007 a gorffen yn ail yn y Cheltenham Gold Cup yn 2011.

“Mae’n ddiwrnod trist iawn, ac yn ddiwedd cyfnod mewn gwirionedd,” meddai. “Roedd e’n geffyl penigamp.”

Dywed ei fod yn sylweddoli wrth edrych yn ôl pa mor ffodus oedd e o gael marchogaeth Denman.

“Roedd Denman mor wydn wrth ddod yn ei ôl dro ar ôl tro. Nid dim ond wrth ennill y Gold Cup, ond fe wnaeth e ennill dwy Hennessy hefyd a gorffen yn ail yn y Gold Cup dair gwaith – fe oedd y ceffyl gorau dw i wedi ei farchogaeth, a’r gorau y bydda i fyth yn eistedd ar ei gefn, mae’n siŵr.”

Cystadleuaeth gyda Kauto Star

Yn ôl Sam Thomas, fe lwyddodd y gystadleuaeth rhwng Denman a Kauto Star, yn enwedig eu ras fawr yn y Gold Cup yn 2008, i godi proffil rasio ceffylau, gan gydio yn nychymyg y gwylwyr.

Yn eu ras olaf yn erbyn ei gilydd yn 2011, gorffennodd Denman yn ail a Kauto Star yn drydydd.

“Mae’r hyn wnaeth y ddau geffyl yna i rasio National Hunt yn anhygoel.

“Yr hyn sydd ei angen ar rasio yw i geffylau o’r fath ddod yn ôl un flwyddyn ar ôl y llall.”