Dylai peilot a fu farw mewn damwain hofrennydd yn Eryri yn gynharach eleni, fod wedi “troi yn ôl”, meddai cwest i’w farwolaeth.

Bu farw Kevin Burke, 56 oed, ar ôl i’w hofrennydd daro yn erbyn creigiau mynydd Rhinog Fawr ger Trawsfynydd ar Fawrth 29.

Yn cyd-deithio ag ef y diwrnod hwnnw roedd ei wraig Ruth, 49 oed, ei frodyr, Donald, 55 oed, a Barry, 51 oed, ynghyd â’i chwaer-yng-nghyfraith, Sharon, 48 oed.

Roedd y teulu o Milton Keynes ar eu ffordd i barti sypreis yn Nulyn, a bu farw pob un o’r pump yn ystod y ddamwain.

Profiad y peilot

Yn y gwrandawiad yng Nghaernarfon heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 5), fe ddywedodd y crwner fod Kevin Burke yn beilot “profiadol iawn”.

Roedd wedi cychwyn ar y daith mewn tywydd teg, ond wrth deithio trwy ogledd Cymru, fe aeth i drafferthion, gyda’r tywydd erbyn hynny yn ansefydlog.

Ychwanegodd hefyd nad oedd gan Kevin Burke y drwydded hedfan briodol i allu hedfan trwy gymylau neu niwl, ac y dylai fod wedi “troi yn ôl” ar unwaith.

Ond wrth ddod i gasgliad, fe ddywedodd y crwner fod y ddamwain o ganlyniad i “anlwc pur”, a’i fod yn credu na fyddai offer yr hofrennydd wedi rhoi “llawer o rybudd” am y creigiau gerllaw.

Fe ddyfarnodd fod pob un o’r pump wedi marw trwy ddamwain.