Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw am drafodaeth “cyn gynted â phosib”, tros ariannu a chefnogi Morlyn Bae Abertawe.

Mewn llythyr at Ysgrifennydd Ynni San Steffan, Greg Clark, mae Carwyn Jones yn datgan awydd Llywodraeth Cymru i gyfrannu at ariannu’r prosiect.

Ac mae’n nodi bod ei Lywodraeth yn fodlon cyfrannu benthyciad £200m,  cyn belled a bod yna “ymrwymiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig” hefyd.

“Trafodaeth”

“Hoffwn drafodaeth ynglŷn â’r cynnig yma cyn gynted ag sy’n bosib, fel ein bod yn medru dod â’r ansicrwydd i ben,” meddai yn y llythyr.

“Ac fel bod ni’n medru gweithio gyda’n gilydd, a dod o hyd i fodd o symud ymlaen gyda’r prosiect arloesol yma, mewn modd fforddiadwy ac sy’n sicrhau gwerth am arian.”

Mae’r llythyr hefyd wedi’i gyfeirio at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, ac at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

Daw’r llythyr, wrth i adroddiadau awgrymu bod Llywodraeth San Steffan yn bwriadu cefnu ar y cynllun.

Byddai’r prosiect yn costio £1.3bn ac yn darparu trydan i 120,000 o dai am 120 o flynyddoedd.