Mae dyn a dreuliodd ddwy flynedd yng ngharchar yn sgil sgandal rywiol Jeremy Thorpe yn ystod y 1970au, yn dal yn fyw, yn ôl Heddlu Gwent.

Roedd Heddlu Gwent wedi cyhoeddi’n wreiddiol bod Andrew Newton wedi marw, sef y dyn sy’n cael ei amau o geisio lladd Norman Scott, cyn-gariad arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn y 1970au.

Ond mae’r llu wedi cadarnhau yr wythnos hon eu bod wedi dod o hyd i Andrew Newton, a’i fod bellach yn defnyddio’r enw Hann Redwin.

Dim ymchwiliad

Mae llefarydd ar ran Heddlu Gwent wedi amddiffyn barn wreiddiol y llu, gan ddweud fod ganddyn nhw “sail rhesymol” i gredu ei fod wedi marw.

Roedden nhw wedi dod i’r casgliad hwnnw yn sgil ymchwiliad a gafodd ei ddechrau yn 2014 i honiadau o lygredd o fewn yr heddlu.

Fe ddaeth yr ymchwiliad i ben y llynedd, ac ar ôl holi Andrew Newton yn ddiweddar, mae Heddlu Gwent wedi dweud na fyddan nhw’n ailagor yr achos.

Y cefndir

Mae lle i gredu bod yna gynllwyn wedi bod yng nghanol y 1970au i ladd Norman Scott, sy’n honni ei fod wedi cael perthynas rywiol â chyn-Aelod Seneddol Gogledd Dyfnaint yn ystod y 1960au.

Fe gafwyd Andrew Newton yn euog o ladd ci Norman Scott yn 1976, ac fe gafodd ei garcharu am ddwy flynedd.

Fe gyfaddefodd yn ddiweddarach ei fod wedi derbyn £5,000 gan “un o gefnogwyr pennaf y Blaid Ryddfrydol” i ladd Norman Scott.

Mae hanes yr achos wedi cael tipyn o sylw yn ddiweddar, yn sgil drama deledu’r BBC, A Very English Scandal, sy’n cynnwys yr actor Hugh Grant a Ben Wishaw yn y prif rannau.