Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo Gweinidog y Gymraeg o “gamarwain y Senedd”, ac maen nhw wedi cyflwyno cwyn swyddogol yn ei herbyn.

Honiad Cymdeithas yr Iaith yw bod Eluned Morgan wedi cyhoeddi ffigyrau “anghywir” am yr ymgynghoriad ar Fil y Gymraeg – diwygiad arfaethedig i Fesur y Gymraeg.

Mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Ionawr, mi ddywedodd y gweinidog: “cefnogwyd ein cynigion [ar gyfer Bil y Gymraeg] gan y sawl a ymatebodd i’r ymgynghoriad”.

Ond, mae’r mudiad iaith wedi herio hyn, gan nodi mai dim ond 77 o’r 504 o ymatebion oedd yn cefnogi eu cynnig i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg – un o gynigion y Bil.

Yn ogystal, mae’r ymgyrchwyr yn honni bod y gwasanaeth sifil wedi cyfaddef bod “sail i’w cwyn” – hynny yw, bod y Llywodraeth heb grynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn iawn.

Bellach, mae’r mudiad wedi gwneud cwyn swyddogol wrth yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Prif Weinidog, gan gyhuddo Eluned Morgan o “amharchu’r broses ymgynghori”.

“Deddf iaith wannach”

“Mae’r hyn mae’r Gweinidog wedi’i ddweud yn ei datganiad yn camarwain y Senedd,” meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith. “Ac er eu bod yn derbyn bod y datganiad yn un ffals, maen nhw’n gwrthod ei gywiro.”

“Mae’n trin y broses ymgynghori gyda dirmyg llwyr. Mae’r Llywodraeth wedi camarwain a chamweinyddu. Maen nhw’n ceisio cuddio’r ffaith nad yw pobl Cymru eisiau’r ddeddf iaith wannach mae’r Llywodraeth yn ceisio’i gwthio drwodd.”

Ymateb Llywodraeth Cymru 

“Rydyn ni wedi ymchwilio’n llawn i gŵyn Cymdeithas yr Iaith ac rydyn ni’n gwneud newidiadau i’n canllawiau ar sut i adrodd ar ymatebion grwpiau ymgyrchu i ymgynghoriadau,” meddai llefarydd.

“Nid yw hyn yn newid ein safbwynt y dylid gwahaniaethu rhwng ymatebion ymgyrchu ac ymatebion unigol manwl i ymgynghoriadau.

“Mae rhai grwpiau ymgyrchu’n gwrthwynebu ein cynigion, ac rydym yn gwerthfawrogi eu barn. Fodd bynnag, ac eithrio’r grwpiau hynny, roedd cefnogaeth i’n cynigion ymhlith yr ymatebwyr eraill.”