Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dechrau trafodaethau â chwmni o Japan, ynglŷn ag agor gorsaf bŵer newydd yn Ynys Môn.

Wrth annerch Aelodau Seneddol ddydd Llun (Mehefin 4), dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Greg Clark, bod hyn yn “gam pwysig ymlaen” i brosiect Wylfa Newydd.

Bydd y prosiect newydd yn costio £12bn, ac mae’n bosib y gallai arian cyhoeddus gael ei fuddsoddi yn y fenter – ynghyd ag arian y datblygwyr, Horizon, a Llywodraeth Japan.  

Mae disgwyl i’r orsaf ddechrau cynhyrchu trydan erbyn canol yr 2020au, gan ddarparu ynni i bum miliwn gartref – 6% o anghenion ynni’r Deyrnas Unedig.

Fe gaeodd gorsaf yr Wylfa wreiddiol yn 2015, ar ôl cynhyrchu ynni am bedwar degawd. Mae’n bosib y bydd yr orsaf newydd yn medru cynhyrchu ynni am 60 mlynedd.