Mi fydd dŵr yfed am ddim ar gael i gerddwyr mewn rhai mannau ar hyd Lwybr Arfordir Cymru, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mewn cyhoeddiad yn Ras Cefnforoedd Volvo yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 5), mae Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, yn dweud y bydd y cynllun hwn yn fodd o leihau nifer y gwastraff plastig sy’n mynd i’r môr.

Llwybr Arfordir Cymru fydd y lleoliad cyntaf yn y wlad i gynnig gwasanaeth o’r fath, ac fe fydd busnesau, pentrefi a threfi’n cael eu hannog i ddarparu mannau ail-lenwi.

Bydd ap dwyieithog hefyd yn cael ei greu i ddangos ymhle yn union fydd dŵr yfed am ddim ar gael, gan ei gwneud yn haws i bobol ail-lenwi eu poteli.

Arloesi

Yn ôl Hannah Blythyn, bwriad Llywodraeth Cymru yw gwneud Cymru “y genedl ail-lenwi gyntaf yn y byd”.

“Cymru yw’r gyntaf yn y byd i gael llwybr troed penodol o gwmpas ei holl arfordir,” meddai.

“Rydyn ni fel Llywodraeth yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â’r cymunedau ar hyd yr 870 o filltiroedd godidog hyn i leihau’r defnydd o blastig untro.”