Wylfa B: Llywodraeth am “gyhoeddi buddsoddiad gwerth biliynau”
Diweddarwyd
Safle Wylfa Newydd
Llun: Horizon
Mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi buddsoddiad gwerth biliynau o bunnau yn atomfa Wylfa Newydd yn Ynys Môn prynhawn ma.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Busnes Greg Clark yn rhoi manylion ynglŷn â’r cytundeb i Aelodau Seneddol yn ddiweddarach heddiw (dydd Llun, 4 Mehefin).
Mae disgwyl y bydd y Llywodraeth yn gwneud buddsoddiad uniongyrchol yn y prosiect ynghyd a llywodraeth Japan, a chwmni Pŵer Niwclear Horizon, un o is-gwmnïau Hitachi, sy’n datblygu’r prosiect.
Dywedodd swyddog cenedlaethol undeb y GMB, Justin Bowden, y bydd yr atomfa “yn creu miloedd o swyddi newydd a phrentisiaethau, sy’n golygu hwb anferthol i’r economi a thrydan dibynadwy i filoedd o gartrefi.”
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.