Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddynes 60 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad angheuol ger Caerdydd ddoe (dydd Sul, Mehefin 3).

Bu farw Barbara Rowe o ardal Pen-y-Fai ym Mhenybont-ar-Ogwr yn sgil gwrthdrawiad a oedd yn cynnwys dwy lori a dau gar ar y A432 ger Croes Cwrlwys.

Fe gafodd dyn 27 oed ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus, ond mae bellach wedi’i ryddhau dan ymchwiliad.

“mam a mam-gu gariadus”

Mae teulu Barbara Rowe wedi talu teyrnged i “fam a mam-gu gariadus”, gan ychwanegu y bydd yna “golled ar ei hôl”.

“Roedd hi wastad yn gofalu amdanyn nhw,” meddai’r datganiad. “Roedd Barbara yn mwynhau cael ei meibion Daniel a Mathew o’i chwmpas, ynghyd â’i dau ŵyr, Mason a Thomas.

“Roedd y ddau ohonyn nhw’n gannwyll ei llygaid, ac roedd hi’n mwynhau treulio pob munud gyda nhw.”