Mae’r Gymraes a enillodd y gyfres deledu realiti, Love Island, wedi dweud ei bod hi’n gobeithio y bydd cystadleuwyr y gyfres newydd yn chwilio am gariad, yn hytrach nag enwogrwydd.

Mi gafodd Amber Davies o Ddinbych, ynghyd â’i chyn-gariad, Kem Cetinay, eu henwi’n enillwyr y gyfres y llynedd, gyda’r ddau’n pocedi £50,000 o wobr ariannol yr un.

Ond ychydig wythnosau ar ôl i’r gyfres ddod i ben, fe ddaeth y cyhoeddiad bod y berthynas rhwng y ddau wedi dod i ben, a hynny oherwydd nad oedden nhw’n teimlo ei bod yn “gweithio”.

“Roedd Kem a fi mewn dwy sefyllfa wahanol yn ein bywydau,” meddai’r Gymraes sydd bellach yn byw yn Llundain.

“Roedd e’n byw gyda’i rieni, a fi oedd ei gariad cyntaf, lle roeddwn i wedi cael sawl perthynas ac wedi symud i Lundain yn 16 oed i fyw’n annibynnol.”

‘Chwilio am gariad, nid enwogrwydd’

Ar drothwy’r gyfres newydd wedyn, a fydd yn cychwyn ar ITV2 heno (dydd Llun, Mehefin 4)  mae Amber Davies wedi dweud ei bod hi’n gobeithio y bydd pobol yn mynd i ynys y cariadon am y “rhesymau cywir”, sef i chwilio am gariad.

“Doedd gennym ni ddim syniad pa mor fawr y byddai’r peth yn tyfu, felly roeddem ni i gyd yno am y rhesymau cywir, a dw i’n gobeithio y byddan nhw felly eleni hefyd,” meddai eto.