Mae Keolis/Amey wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer gwasanaeth trenau Cymru a’r Gororau, gan addo buddsoddi £800m mewn trenau newydd.

Mae’r gweithredwyr newydd, yn dweud y bydd 95% o’u siwrneiau yn cael eu darparu gan drenau newydd o fewn  pum mlynedd. Ac mae’r cwmnïau yn addo creu 600 o swyddi newydd.

Yn ogystal, bydd £194m yn cael ei fuddsoddi mewn moderneiddio pob un o orsafoedd Cymru, ac mi fydd pedwar gorsaf newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghaerdydd.

Y ddau gwmni yma – Keolis ac Amey – fydd yn rhedeg gwasanaeth rheilffordd Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru ar y cyd, pan fydd Arriva Cymru yn ildio’r awenau ym mis Hydref.

Llwyddon nhw i ennill cytundeb y gwasanaeth ym mis Mai, a nhw fydd yn gyfrifol amdano am y pymtheg mlynedd nesa’.

Bydd KeolisAmey yn gweithio mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru, gan redeg yr holl wasanaethau o dan frand Trafnidiaeth Cymru.

“Pennod newydd”

“Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig i drafnidiaeth yng Nghymru ac yn gychwyn ar bennod newydd i wasanaethau rheilffordd yn y wlad yma,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

“Fe aethon ni ati i gaffael yn wahanol y tro hwn. Blaenoriaethau’r teithwyr oedd wrth galon ein ffordd ni o feddwl ac fe roddwyd her i’r ymgeiswyr i gyd i roi sylw i’w pryderon am nifer y seddau ar drenau, amseroedd siwrneiau ac amledd gwasanaethau.

“Fe ddywedodd y teithwyr eu bod nhw eisiau prisiau fforddiadwy a threnau glanach a mwy newydd, ac rydyn ni wedi gweithio’n galed i sicrhau bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y contract rydyn ni’n ei lansio heddiw.

“Dyma gyfle nid yn unig i greu system drafnidiaeth fodern a blaengar, ond i’w defnyddio hefyd fel adnodd pwysig i ddylanwadu ar fywyd y genedl o’n cwmpas ni. Mae hon yn garreg filltir yn natblygiad Cymru yn y dyfodol.”

Amcanion

  • Bydd gorsafoedd yn cael eu pweru 100 y cant gan ynni adnewyddadwy;
  • Yn ogystal â chreu swyddi, bydd yna 450 o brentisiaethau newydd;
  • Bydd hanner y trenau newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru;
  • Bydd 29% yn rhagor o deithiau bob wythnos, erbyn 2023;
  • Hwb o 61% i wasanaethau ar y Sul.