O siop offer yn Osaka y mae Robat Idris yn anfon ei neges olaf adref i Gymru yn ystod taith mudiad PAWB i geisio perswadio cwmni Hitachi i roi’r gorau i’r syniad o godi atomfa niwclear yn Sir Fon.

Mae pobol gyffredin yn gallu prynu teclynau i fesur yr ymbelydredd mewn siop electronig – ac yn eu defnyddio yn rheolaidd – gan nad ydyn nhw’n gallu ymddiried yn narlleniadau’r llywodraeth.

“Sut fasan ni’n licio byw ein bywydau fel hyn, yn gorfod cadw teclynau fel hyn yn ein tai?” ydi cwestiwn Robat Idris.

Mae’n codi cwestiynau hefyd am sut fyddai’r dyfodol i bobol Ynys Mon yng nghysgod atomfa Wylfa Newydd, a phaa mor saff ydi Japan ar gyfer cynnal y Gemau Olympaidd yn ninas Tokyo yn 2020.