Yn eu trydydd fideo o’u taith i Japan, mae dau o aelodau mudiad gwrth-niwclear PAWB (Pobol Atal Wylfa B) yn dweud fod yna gefnogaeth dros y mor hefyd i’r frwydr yn erbyn codi atomfa yng ngogledd Sir Fon.

Yn y neges ddiweddara’, mae Robat Idris yn cyfeirio at brofiadau chwerw pobol Japan yn dilyn damwain niwclear Fukushima yn 2011, a sut y mae hynny wedi newid barn pobol – a gwleidyddion – am y diwydiant.

Yr wythnos ddiwethaf, fe gyflwynodd y tri aelod o PAWB – Robat Idris, Meilyr Tomos a Linda Rogers – lythyr yn dadlau eu hachos i reolwyr cwmni Hitachi; ac fe fuon nhw hefyd ar daith o gwmpas tref sy’n gartref i brosesydd gwastraff niwclear, ac sydd wedi’i gwagio o bobol.