Mae Aelod Cynulliad o ardal Abertawe wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn “hynod o ddig” ar ôl clywed adroddiadau y gallai Llywodraeth Prydain wrthod buddsoddi ym Morlyn Llanw Bae Abertawe.

Yn ôl Dai Lloyd, AC Plaid Cymru Gorllewin De Cymru, gall y Cymry ddim ymddiried yn y Llywodraeth yn Llundain am nad ydyn nhw’n “gwneud y gorau i Gymru”.

“Mae’n ergyd drom, mae’n rhaid i fi ddweud a dw i’n teimlo’n ddig ynglŷn â’r peth,” meddai wrth golwg360 ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd.

“Rydw i’n teimlo yn hynod o ddig achos mae’r rheini sydd wedi bod yn gweithio ar hyn, [wrthi] ers deuddeng mlynedd.

“Ac wrth gwrs roeddwn i wedi cael yr adroddiad yma gan Charles Hendry rhyw 18 mis yn ôl, cyn-weinidog ynni Llywodraeth Dorïaidd Llundain, oedd yn deud bod hi’n ‘no brainer’ cael y morlyn llanw yma. Nawr dydan ni ddim yn mynd i gael o.”

“Dyma beth sy’n dod o Brydeindod”

Wrth ddweud na all Cymru ddibynnu ar Lundain i wneud penderfyniadau drosti, cyfeiriodd yr AC at bleidlais yn y Cynulliad rhai wythnosau yn ôl i roi cydsyniad at Fil Brexit Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Roedden ni’n cael y drafodaeth rhyw tair wythnos yn ôl gyda phleidlais dyngedfennol ynglŷn ag os oedden ni’n mynd i roi cydsyniad deddfwriaethol i’r mesur yma i ddod allan o Ewrop.

“Roedd rhaniad rhwng y sawl oedd yn Brydeinwyr yn y Siambr a’r sawl sy’n rhoi Cymru’n gyntaf ac roedd y Prydeinwyr yn dathlu’r diwrnod hynny bod nhw’n falch iawn o fod yn unoliaethwyr.

“Wel dyma beth sy’n dod o fod yn rhan o’r Prydeindod yna – gadael i benderfyniadau tyngedfennol fel hyn i gael eu gwneud yn Llundain, beth sy’n digwydd ydy dydan nhw ddim yn gwneud y gorau i Gymru.”

Fideo o farn Dai Lloyd ar y mater…