Mae’r Mudiad Meithrin a’r Urdd wedi lansio cystadleuaeth ar faes yr Eisteddfod heddiw i ddod o hyd i’r ‘Martyn Geraint nesaf’.

Y bwriad yw ceisio dod o hyd i ddiddanwr plant bach a bydd y gystadleuaeth ar agor i aelodau o’r Urdd rhwng 18 a 24 oed.

Bydd y gystadleuaeth yn cymryd ffurf eithaf tebyg i Ysgoloriaeth Bryn Terfel, gyda’r sawl sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael hyfforddiant yn un o wersylloedd yr Urdd i ddatblygu eu sgil ymhellach.

Y wobr i’r enillydd yw £500, hyfforddiant a chyfle i berfformio yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd y flwyddyn nesaf ac yng ngŵyl y Mudiad Meithrin fis Mehefin nesaf.

“Mae yna genhedlaeth o unigolion sydd wedi diddanu plant ar hyd y degawdau ac mae rhywun jyst yn ymwybodol bod hi’n amserol i chwilio am dalent newydd,” meddai Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin, wrth golwg360.

“Dw i’n gwybod fel ffaith bod unigolion fel Martyn Geraint, y Brodyr Gregory ac yn y blaen hefyd yn awyddus i feithrin y dalent.

“Roedden ni’n gweld cyfle oherwydd bod gynnon ni gynulleidfa darged yn y ffaith bod gynnon ni’r plant bach a bod gan yr Urdd gynulleidfa o unigolion hŷn o fewn oedran aelodaeth yr Urdd a fyddai o bosib eisiau meddwl am ddatblygu neu feithrin y math yma o dalent.”