Mae un o gyfansoddwyr caneuon mwya’ poblogaidd Cymru yn dweud bod y dewis o gerddoriaeth ar Radio Cymru yn “hybu ei difodiant”.

Mae Arfon Wyn wedi cyfansoddi’r Cân i Gymru fuddugol bedair gwaith, ac mae ‘Harbwr Diogel’, y gân fuddugol yn 2002, wedi dod yn glasur Cymraeg.

Bu hefyd mewn sawl grŵp roc-gwerin ac mae ei fand diweddaraf, Y Moniars, wrthi yn diddanu ers chwarter canrif.

Yr wythnos hon mae’r canwr-gyfansoddwr wedi tanio trafodaeth ar wefan facebook, gyda’i sylwadau am y dewis o gerddoriaeth ar Radio Cymru.

Mae’r orsaf ar fai am chwarae cerddoriaeth “sy wedi ei anelu at yr ifanc” yn ystod y dydd pan maen nhw “i gyd yn eu hysgolion neu eu colegau”, meddai.

Ac mae’r gerddoriaeth “amhersain” yn “DIEITHRIO YN ARW y gwrandawyr ffyddlon sy’n ddinasyddion hŷn”.

Yn ôl Arfon Wyn mae “hyn yn ddolur mawr i mi gan fod y ffigyrau gwrandawyr yn gostwng”.

Ac mae ganddo rybudd i benaethiaid yr orsaf: “Bydd BBC Llundain yn rhoi llai o arian o lawer i Radio Cymru yn y diwedd ac yn hybu ei difodiant yn y pendraw”.

“Annhegwch i gerddoriaeth canol y ffordd”

Ers gosod ei sylwadau ar facebook nos Fawrth, mae Arfon Wyn yn dweud fod y BBC wedi trefnu i’w gyfarfod yr wythnos nesaf, i drafod ei bryderon.

Ac mae’r BBC wedi cadarnhau y byddan nhw yn cyfarfod y cerddor “yn fuan”.

“Mae yn rhaid bod o wedi cyffwrdd nerf,” meddai Arfon Wyn wrth golwg360.

“Mae gymaint o bobol wedi gweld [y neges] ar facebook, a gymaint wedi ei rannu… wnes i ddweud yn y neges: ‘Os ydach chi’n cytuno efo hyn, rhannwch o.’

“Ac mae yna lwythi wedi ei rannu fo…

“Dw i’n gwybod beth sydd yn taro calon pobol Cymru.

“Mae yna annhegwch i gerddoriaeth canol y ffordd.”

Ond a ydy Arfon Wyn ond yn cwyno am nad yw ei gerddoriaeth yn cael ei chwarae ar Radio Cymru?

“Maen nhw yn chwarae rhai fi, chwarae teg!

“Maen nhw yn dal i chwarae ‘Harbwr Diogel’ a ‘Cae o Ŷd’ a rhyw un neu ddwy arall.

“Ond dw i ddim yn poeni am hynny.

“Beth sy’n fy nghael i ydy bod fy mam ddim yn gwrando rŵan, mae hi wedi cael llond bol ar y miwsig – ‘amhersain’ mae hi’n ei alw fo.

“A dw i’n cytuno lot efo hi…

“Dw i wedi bod yn gwrando lot yn ddiweddar, ac ynghanol rhaglen canol y ffordd, rwyt ti’n cael blast o ryw fand hollol arbrofol, gwallgof…

“Maen nhw yn trio bod yn hip, ac yn colli cynulleidfa.”

Ymateb y BBC

Dywedodd llefarydd ar ran Radio Cymru: “Mae BBC Radio Cymru yn ymfalchio yn yr ystod eang o gerddoriaeth sydd i’w chlywed ar yr orsaf.

“Mae’r rhestr chwarae yn rhoi lle allweddol i glasuron y gorffennol a’r caneuon poblogaidd hynny sydd mor bwysig i’n gwrandawyr, ac mae ffigyrau gwrando cryf y cyfnod diwethaf yn awgrymu fod hynny’n plesio.

“Rydym hefyd yn hynod falch fod Radio Cymru yn rhoi llwyfan teilwng i dalent newydd cerddorol Cymru.

“Serch hynny, mae cryfhau ein darpariaeth gerddorol i gynulleidfa eang yr orsaf yn destun trafod cyson ymhlith timau cynhyrchu a gyda’r diwydiant, ac mae sgyrsiau gyda’r gwrandawyr, cerddorion a labeli yn rhan bwysig o’n gwaith.”

 

Y drafodaeth ar facebook:

https://www.facebook.com/aarron.white/posts/1715527428539492