Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cyfarfod â chynrychiolwyr o Lywodraeth Prydain yn Washington heddiw (dydd Gwener, Mehefin 1), er mwyn trafod tollau dur newydd yr Unol Daleithiau.

Ac mae’r cwmni dur, Tata, sy’n cyflogi tua 7,000 o weithwyr yng Nghymru, wedi galw ar yr Undeb Ewropeaidd i gymryd “camau cyflym ac effeithiol” yn erbyn yr Unol Daleithiau.

Yr arwyddion yw fod hynny’n debyg o ddigwydd yn fuan, gyda Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, yn dweud y bydd rhaid taro’n ôl.

‘Siomedig’

Mae Carwyn Jones, sydd ar daith waith yn yr Unol Daleithiau, eisoes wedi dweud ei fod yn “siomedig” â’r tollau newydd, gan ddweud y byddan nhw’n “achosi niwed” i’r diwydiant dur yng Nghymru.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain, mae’n dweud bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi rhoi sicrwydd i Brif Weinidog Cymru y byddan nhw’n chwilio am “ddatrysiad llwyddiannus” i’r sefyllfa.

Fe fydd y ddau’n cydweithio â’i gilydd i fod yn “llais cryf” i ddur Cymreig yn ystod y trafodaethau, meddai.

‘Hurt’ meddai Llywodraeth Prydain

Mae’r tollau newydd, sy’n cynnwys codi treth o 25% ar ddur a 10% ar alwminiwm, wedi dod i rym heddiw, ac wedi ennyn ymateb chwyrn gan y gymuned ryngwladol.

Yn ôl Ysgrifennydd Masnach Llywodraeth Prydain, Liam Fox, mae e wedi eu disgrifio fel rhai “hurt”, gan ychwanegu na fydd Llywodraeth Prydain yn diystyru “taro’n ôl”.

Mae Canada a Mecsico hefyd wedi beirniadu’r penderfyniad.

Yn ôl yr Arlywydd Trump yn yr Unol Daleithiau mae’n rhaid i bob gwlad o werth gael diwydiant dur ac alwminiwm ac mae amddiffyn y rheiny’n fater o ‘ddiogelwch cenedlaethol’.