Mae Prifardd Eisteddfod yr Urdd 2018 yn dweud ei fod wedi cael “hwb” fel sgrifennwr yn ddiweddar, a hynny wrth dderbyn clod gan feirniaid mewn eisteddfodau.

Osian Wyn Owen o’r Felinheli yw enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed eleni, ac fe ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth a oedd wedi denu 13 i gystadlu.

Roedd wedi sgrifennu cerdd rydd ar y testun ‘Bannau’, a oedd yn trafod carwriaeth rhwng dau yn y brifysgol.

Dyma’r union gerdd a enillodd iddo Gadair yn yr Eisteddfod Rhyng-golegol yn Llanbedr Pont Steffan eleni, lle llwyddodd i wneud y ‘dwbwl’ a chipio’r Goron hefyd.

Barn y beirniaid 

Mae’r myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn dweud bod y clod y mae wedi’i dderbyn am ei lwyddiannau yn ddiweddar wedi’i annog i “sgwennu mwy”.

“Yn y flwyddyn ddiwetha’, dw i wedi cael beirniadaethau gan lenorion fel Mari Lisa, Gruffudd Antur, Tudur Dylan a Guto Dafydd… pobol sy’n gwybod lot gwell na fi ac sy’n llenorion lot gwell,” meddai Osian Wyn Owen wrth golwg360.

“Felly mae cael beirniadaeth gan bobol fel’na yn rhoi sêl bendith ar eich gwaith chi.

“Mae’n fraint ac yn hwb, ac yn annog rhywun i sgwennu mwy, ac yn rhoi rheswm i rywun sgwennu.”