Mae elusen yn apelio am wybodaeth, wedi i fideo ddod i’r fei yn dangos dyn yn brathu pen colomen.

Mae’r fideo i weld yn dangos y dyn yn gafael yn yr aderyn – ar ôl taro ei nyth gyda ffon – ac yn cnoi ei ben i ffwrdd.

Ar ôl gwneud hynny, mae unigolion eraill yn y cefndir yn chwerthin, wrth i’r dyn eto sefyll o flaen y camera yn dangos corff y golomen.

Cred elusen anifeiliaid yr RSPCA bod y fideo wedi’i ffilmio naill ai yng ngogledd Lloegr neu yng Nghymru, ac maen nhw’n gofyn i’r cyhoedd rannu unrhyw wybodaeth gyda nhw.

“Ffiaidd”

“Mae’r fideo yma yn ffiaidd tu hwnt, yn erchyll ac yn ofnadwy,” meddai Dermot Murphy, cyfarwyddwr cynorthwyol yr RSPCA.

“Mae i weld yn dangos dyn yn brathu pen colomen fyw i ffwrdd. Os mai fideo go iawn yw hwn, mae’n rhaid bod y golomen wedi dioddef poen na allwn ei ddychmygu.”