Mae dyn 49 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, yn dilyn marwolaeth dynes ym Meddllwynog ger Merthyr Tudful, ddydd Mawrth (Mai 29).

Yn dilyn galwad brys yn codi pryderon am ddynes mewn tŷ ar Stryd Lewis, fe gyrhaeddodd swyddogion yr adeilad am 6.21yb. Fe ddaethon nhw o hyd i gorff dynes leol, 38.

Bellach mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill. Mae’r dyn a gafodd ei arestio bellach yn y ddalfa.

Mae heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd ger Stryd Lewis, ac a sylwodd ar unrhyw beth amheus, rhwng prynhawn ddydd Gwener (Mai 25) a bore ddydd Mawrth (Mai 29).

“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n credu bod yr unigolion oedd ynghlwm â’r drosedd yn nabod ei gilydd,” meddai Stuart Wales, Ditectif Arolygydd gyda Heddlu De Cymru.