Fe fydd etholiad cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru yn digwydd ym mis Tachwedd eleni, gyda’r cyfnod cofrestru i bleidleisio yn agor heddiw.

Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, ar faes Eisteddfod yr Urdd er mwyn annog pobol ifanc rhwng 11 ac 18 oed i gofrestru er mwyn bwrw’u croes.

Wedi blwyddyn o ymgynghori, mae cynlluniau ar y gweill i gyflwyno Senedd i bobol ifanc, er mwyn rhoi cyfle i leisio barn ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw.

Mae disgwyl i’r Senedd Ieuenctid weithio mewn ffordd debyg iawn i’r Cynulliad Cenedlaethol, gyda 60 aelod rhwng 11 a 18 oed.

Fe fydd 40 o aelodau yn cael eu hethol i gynrychioli 40 etholaeth, tra bydd yr 20 arall yn cael eu dewis gan “bartner sefydliadau” i sicrhau bod amrywiaeth yn y Senedd.

Bydd y cyfnod o gofrestru ar gyfer sefyll mewn etholaeth yn agor o Fedi 3 ymlaen, gyda’r bleidlais ym mis Tachwedd.

Pŵer y Senedd newydd

Bydd pob tymor yn para dwy flynedd ac er bydd gan y Senedd newydd gyfle i godi materion gwahanol a dylanwadu ar y Cynulliad, ni fydd yn gallu gwneud penderfyniadau a fydd yn newid cyfraith yng Nghymru.

“Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn ffordd gwbwl newydd i bobol ifanc yng Nghymru ddweud eu dweud,” meddai Elin Jones.

“Mae eu barn yn bwysig, felly bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn sicrhau y clywir eu llais gan y bobol sydd â’r pŵer i newid pethau.”

Daeth fforwm trafod ieuenctid diwethaf Cymru, Y Ddraig Ffynci, ei ben yn 2014, wedi i Lywodraeth Cymru dorri ei grant.