Mae un o Aelodau Seneddol y Blaid Lafur o Gymru wedi galw am “safle cliriach” ar Brexit gan Jeremy Corbyn.

Yn ôl Stephen Kinnock, AS Aberafan, mae’r ffaith nad yw arweinydd Llafur wedi bod yn fwy pendant ar y berthynas mae am weld rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi golygu bod “llawer o leisiau gwahanol yn dweud pethau gwahanol.”

Roedd y gwleidydd yn siarad â golwg360 wedi i 31 o wleidyddion o Gymru, y rhan fwyaf ohonyn nhw o’r Blaid Lafur, arwyddo llythyr yn galw am refferendwm arall ar y cytundeb terfynol Brexit.

Er bod e wedi cael cynnig i arwyddo’r llythyr hefyd, dewisodd Stephen Kinnock beidio, am ei fod yn bwysicach nawr, meddai, dadlau dros y math o Brexit sydd ar y gorwel.

“Dw i’n credu bod [y llythyr] yn neges glir bod angen i arweinyddiaeth ein plaid gamu ‘mlaen gyda safle clir,” meddai.

“Un o’r rhesymau pam fod gennym ni lawer o leisiau gwahanol yn dweud pethau gwahanol yw am nad ydym ni wedi cael safle clir ar yr hyn rydym ni eisiau gwneud am ein perthynas gyda’r farchnad sengl ac ein perthynas fasnach gyda’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae’n dda ein bod ni bellach yn cefnogi ffurfio undeb tollau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ond mae hynny dim ond yn mynd cam o’r ffordd tuag at le rydym ni angen bod.

“… Mae angen safle clir arnom ar y farchnad sengl ac [aros yn] yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yw’r opsiwn mwya’ ymarferol.

“Os byddai arweinyddiaeth ein plaid wedi bod yn gliriach am hynny ers y dechrau yna dw i’n credu na fyddwn ni yn y sefyllfa yma nawr lle mae pobol yn galw am bob math o bethau eraill i ddigwydd.

“… Gallwch chi ddim torri menyn gyda chyllell sydd wedi’i gwneud o fenyn ac mae safle ein plaid angen bod yn llawer mwy miniog a llawer mwy clir.”

‘Angen dilyn Norwy’

Mae Stephen Kinnock wedi bod yn dadlau am i wledydd Prydain aros yn rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd [EEA] a dilyn model tebyg i Norwy.

“Dw i’n credu bod e’n bwysig ein bod ni’n anfon neges glir ein bod ni’n derbyn ac yn parchu canlyniad y refferendwm.

“Ond mae yna farc cwestiwn anferth dros sut rydym ni’n gadael a dw i’n credu y byddai Brexit yn seiliedig ar EEA yn ein galluogi i gael gwell rheolaeth ar ryddid i symud, i fod y tu allan i awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop ond hefyd i gael perthynas agos iawn gyda’r farchnad sengl.

“Dw i’n credu mai dyna’r unig opsiwn sydd ar y bwrdd sy’n ein galluogi ni i adael yr Undeb Ewropeaidd heb ddinistrio degau ar filoedd o swyddi.

“Dw i’n gobeithio y bydd arweinydd y blaid yn chwipio’r Blaid Lafur Seneddol i bleidleisio o blaid y gwelliant EEA pan fydd yn dod nôl i Dŷ’r Cyffredin ar yr 11eg neu’r 12fed o Fehefin.

“Dyna’r ffordd orau o uno ein gwlad ranedig ac uno’r Blaid Lafur.”