Mae dros 30 o wleidyddion yng Nghymru wedi arwyddo llythyr agored yn galw am roi ail bleidlais i bobol gwledydd Prydain ar Brexit.

Mae’r 31 enw yn cynnwys Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol, dau Aelod Seneddol Ewropeaidd ac wyth arweinydd cyngor yng Nghymru.

Yn ôl y gwleidyddion, mae angen pleidlais gyhoeddus ar y gytundeb terfynol cyn i’r Deyrnas Unedig droi cefn ar Ewrop yn swyddogol.

Mae’r llythyr, sydd wedi’i gydlynu gan grŵp Cymru dros Ewrop, yn dweud hefyd bod hi’n “glir” na fydd rhai o addewidion yr ymgyrch o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu cadw.

“Bydd dim £350m yr wythnos i’r Gwasanaeth Iechyd. Bydd dim cytundebau masnach newydd yn barod i gael eu harwyddo yn syth wedi i ni adael,” meddai.

“Ac rydym yn gwybod bod amryw o faterion, rydym ni byth, neu bron byth, wedi trafod yn y refferendwm sydd bellach yn ofnadwy o bwysig.

“Mae ffin Iwerddon yn un, ac  mae hynny’n un sydd o bwys i Gymru am y gallai ein porthladdoedd fod yn rhan o ffin galed yn economaidd gydag Iwerddon. Mae llawer o faterion eraill.”

Dau o Lywodraeth Cymru ar y llythyr

Mae angen “Pleidlais y Bobol”, meddai’r gwleidyddion, am fod y gytundeb terfynol ar Brexit yn “rhy fawr” i bleidlais ar lawr Tŷ’r Cyffredin yn unig.

Mae’r enwau yn cynnwys 25 o wleidyddion Llafur, pump o Blaid Cymru, a Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg gyda Llywodraeth Cymru, sy’n Ddemocrat Rhyddfrydol.

Yr enw arall o gabinet Llywodraeth Cymru yw Alun Davies, yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu hyn, gan ddweud bod Kirsty Williams ac Alun Davies yn mynd yn erbyn polisi swyddogol Llywodraeth Cymru.

Yn ôl llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru: “Blaenoriaeth y Prif Weinidog o hyd yw sicrhau’r fargen orau bosibl i bobol Cymru a’r Deyrnas Unedig.”