Fydd adroddiad i lofruddiaeth Daniel Morgan ddim yn cael ei gyhoeddi tan y flwyddyn nesaf – bum mlynedd yn hwyrach na’r disgwyl – yn ôl adroddiad ym mhapur newydd The Guardian.

Roedd Daniel Morgan, 37, yn dditectif preifat ac yn gyd-berchen asiantaeth o’r enw Southern Investigations. Roedd yn hanu o Sir Fynwy.

Ar Fawrth 10, 1987, cafodd ei ddarganfod yn ne Llundain â bwyell yn sownd yn ei ben. Hyd yma does neb wedi cael eu barnu’n euog oi lofruddio.

Y gred yw bod Daniel Morgan wedi darganfod fod plismyn llygredig yn rhan o fasnach gyffuriau yn y ddinas, a’i fod wedi’i ladd cyn iddo allu datgelu hynny.

Gohirio

Cafodd yr ymchwiliad swyddogol ei gyhoeddi ym mis Mai 2013, gan y cyn-Ysgrifennydd Cartref, Theres May, gyda’r bwriad o’i gwblhau o fewn blwyddyn.

Ond mae cyhoeddiad adroddiad wedi’i ohirio sawl gwaith, a chred teulu Daniel Morgan, yw bod Heddlu’r Met yn gyfrifol am hyn.