Mae pobol y Rhath yn gweld eu hunain mewn modd “positif” yn ôl cynghorydd Llafur sy’n cynrychioli ward yno.

Daw sylw Peter Wong – sy’n cynrychioli ward Plasnewydd ar gyngor Caerdydd – yn sgil cyfres o lofruddiaethau ac ymosodiadau yn yr ardal.

Gan dynnu sylw at weithgareddau creadigol, gan gynnwys gŵyl flynyddol Made in Roath, mae’r cynghorydd yn wfftio’r awgrym bod yna ddelwedd negyddol o’r ardal.

“Cydweithio a chydfyw”

“Mae gyda ni gymuned ddiwylliannol fywiog iawn yn y Rhath,” meddai wrth golwg360. “Ac mae’r Rhath yn creu hunaniaeth i’w hunain trwy bethau fel diwylliant.

“Mae’r rhan fwyaf o bobol yn gweld y Rhath fel lle positif ac amlddiwylliannol, aml-ethnig a dynamig – lle mae pobol yn cydweithio ac yn cyd-fyw yn dda.

“… Ar y cyfan mae cymuned y Rhath, yn gweld ei hun mewn modd positif. Mae ganddo lawer o adnoddau diwylliannol. Mae’r rhan fwyaf o bobol yma yn dathlu bywiogrwydd Ffordd y Ddinas.”

Trosedd

Mae’r cynghorydd yn nodi mai ffenomen “ddiweddar” yw’r pwl o drosedd yn y Rhath, ac mae’n cwestiynu os oes cysylltiad rhwng yr achosion.

“Oes cysylltiad rhwng pob achos?” meddai. “Os mai achosion ynysig yw’r rhain, mae hynna’n golygu nad oes angen pryderu cymaint.

“Ond ar hyn o bryd, does dim digon o wybodaeth gyda ni, na’r heddlu, i gadarnhau hynny.”

Bu farw dyn yn y Rhath ddydd Sul (Mai 27) yn dilyn ymosodiad, ac mae heddlu yn ymchwilio i’r achos – mae dau berson wedi’u harestio yn gysylltiedig â’r digwyddiad.