Mae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd yn dweud nad oes yna “unrhyw broblem” rhwng mudiad yr Urdd a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Er bod Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn cael ei chynnal ar Faes y Sioe Frenhinol eleni, dyw CFfI Cymru, sydd a’u pencadlys reit yng nghanol y maes, “ddim ar agor” i’r cyhoedd yr wythnos hon.

Mae hynny, medden nhw, ar ôl cael ar ddeall gan drefnwyr yr Eisteddfod y bydden nhw ar gyrion maes yr ŵyl, ac y byddai ffens ger y ganolfan a fyddai’n rhwystro pobol i alw heibio.

“Eu penderfyniad nhw”

Ond yn ôl Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn, roedden nhw wedi “cysylltu” â CFfI Cymru o flaen llaw ynglŷn â rhai trefniadau. Mae’n dweud mai “eu penderfyniad nhw” oedd peidio ag agor y ganolfan.

“Fe wnaethom ni drafod gyda nhw, ac maen nhw wedi rhoi’r Fedal Gyfansoddi i ni ddydd Llun, felly ry’n ni’n ddigon hapus gyda’r bartneriaeth,” meddai.

“Ond yn amlwg, penderfyniad y Ffermwyr Ifanc oedd peidio agor fel nifer o sefydliadau eraill, felly does dim unrhyw broblem.”