Mae mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn dweud eu bod yn difaru cau eu pencadlys ar Faes y Sioe yn Llanelwedd yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd.

Mae prif swyddfa CFfI Cymru reit ar ganol Maes y Sioe, ac ynghyd â bod yn ganolfan i gystadlaethau a digwyddiadau’r mudiad trwy gydol y flwyddyn, mae’r adeilad hefyd yn cynnwys swyddfeydd ei swyddogion.

Ond er bod Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn cael ei chynnal ar yr union safle eleni, dyw canolfan CFfI Cymru “ddim ar agor” i’r cyhoedd yr wythnos hon.

Mae hynny, medden nhw, yn ar ôl cael ar ddeall gan drefnwyr yr Eisteddfod y byddan nhw ar gyrion maes yr ŵyl.

Problemau’r ffens

“Roedd pobol yr Eisteddfod wedi dweud ein bod ni reit yn y gornel, a bod yna ffens jyst ar ochor y ganolfan, so ro’n ni’n meddwl does dim lot o bwynt i fod ar agor,” meddai Nia Lloyd, Prif Weithredwr CFfI Cymru, wrth golwg360.

“Ond erbyn hyn, does dim ffens, felly mae tipyn bach yn siomedig rili achos we could have done something more.

Er bod y ganolfan ynghau trwy gydol yr wythnos, mae Nia Lloyd yn ychwanegu bod yna “groeso mawr” i bobol alw heibio am baned.