Mae dau o ymgyrchwyr gwrth-niwclear o Gymru wedi anfon neges fideo adref, cyn iddyn nhw ddanfon llythyr i gwmni Hitachi, yn apelio arnyn nhw i beidio â datblygu gorsaf niwclear newydd ym Môn.

“Os fasa pobol Cymru yn gweld y ffasiwn lanast sydd yn ardal Fukushima, fasan nhw ddim yn ystyried Wylfa B,” meddai Robat Idris, cyn mynd yn ei flaen i egluro’r effaith ar y dirwedd a’r bobol leol.

“Mae pethau yn debyg o ran sut y mae pethau’n digwydd yn Japan ag fel y maen nhw yng Nghymru ac ym Mhrydain,” meddai wedyn. “Mae pethau’n cael eu cadw’n dawel, mae yna ddirgelwch o ran ariannu… felly mae pobol yma yn Japan ac yng Nghymru yn gallu teimlo yr un ffordd am bethau.”

Pwy sy’n gyfrifol?

“Mae’r diffyg dealltwriaeth yma am Gymru… a’r cyfrifoldeb am y gwastraff, ddim yn saff pwy sydd holding the baby yn y pen draw… os mai llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y gwenwyn fydd yn dod allan o Wylfa B, ynteu San Steffan…” meddai Meilyr Tomos wedyn.

“Maen nhw i weld yn synnu wrth i ni esbonio bod y goruchwylio ar ol Brexit, dydi’r systemau ddim yn eu lle, dydyn nhw ddim yn barod. Ac mae pobol Japan yn synnu pan ydan ni’n egluro hyn.”