Mae grŵp o ymgyrchwyr wedi addurno stondin Llywodraeth Cymru ar faes Eisteddfod yr Urdd gyda chloc mawr, mewn gwrthdystiad yn erbyn cynlluniau y maen nhw’n dweud fydd yn gwanhau deddfwriaeth iaith.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, fe fyddai cynlluniau Llafur Cymru i ddiwygio Mesur Iaith 2011 yn “troi’r cloc yn ôl i’r nawdegau” i system a grëwyd gan y Ceidwadwyr cyn datganoli.

Mewn papur gwyn a gyhoeddwyd y llynedd, roedd Llywodraeth Cymru yn cynnig diddymu Comisiynydd y Gymraeg, cyfyngu ar allu pobol i gwyno a gwanhau pwerau i sicrhau bod cyrff yn cadw at eu dyletswyddau iaith – gan arwain at fframwaith tebyg iawn i Ddeddf Iaith 1993.

“Dydyn ni ddim yn deall pam fod y Gweinidog Eluned Morgan am ddilyn agenda adain dde o leihau rheoleiddio er lles cyrff a busnesau pwerus,” meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae Llafur am droi’r cloc yn ôl i Ddeddf Iaith wan y Torïaid drwy atgyfodi cwango tebyg i Fwrdd yr Iaith a gwanhau ein hawliau i gwyno a chael cyfiawnder.

“Dyw pobol Cymru ddim eisiau hawliau iaith gwannach, maen nhw am symud ymlaen, nid camu’n ôl i hen ddeddfwriaeth a fethodd.”

Mae disgwyl i’r gweinidog, Eluned Morgan, wneud cyhoeddiad yn y Senedd yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf ynglyn â’i chynlluniau.