Mae un o gyfarwyddwyr yr Urdd wedi cyfiawnhau’r penderfyniad i fesur “boddhad” yn hytrach na “nifer” ymwelwyr Eisteddfod eleni.

Dadl Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a’r Celfyddydau Urdd Gobaith Cymru, yw bod niferoedd ymwelwyr y brifwyl yn aros yn “weddol gyson”.

“Dros y ugain blynedd ddiwetha’ mae niferoedd yr Eisteddfod wedi bod yn weddol gyson,” meddai wrth golwg360. “Dros 90,000.

“Dydyn ni ddim yn gweld unrhyw gynnydd neu ddisgyniad oherwydd natur yr ŵyl yw cystadlu. Mae 75% yn dod oherwydd cystadlu, ac felly dyw’r niferoedd ddim yn newid rhyw lawer.

“Dyw e ddim yn profi dim byd, bod 91,000 wedi dod neu 88,000 wedi dod.”

Mae Eisteddfod yr Urdd eleni wedi’i leoli ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, a bydd yr Urdd yn dilyn ôl y sioe honno try gefnu ar ffigyrau ymwelwyr.

Y maes

Mae Aled Siôn yn cydnabod bod y drefn eleni yn peri sialensiau “newydd” – mae nifer o’r stondinau dan do, yn hytrach nag mewn pebyll – ond yn ffyddiog bod yr Urdd wedi llwyddo “addasu”.

“Mae popeth wedi mynd yn hwylus bore yma,” meddai.” Mae’r pafiliynau yn y llefydd iawn. Rydym ni wedi addasu nhw. Felly gewn ni weld ar diwedd y dydd.

“Mae’n newydd ‘ma. Fel arfer, r’yn ni’n gwybod beth yw cefn llwyfan. Ond rydym ni wedi gorfod addasu. Ac felly, mae popeth yn mynd yn dda iawn.”

 pheth trafod wedi bod am hir am safle parhaol ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, mae Aled Siôn yn nodi:  “Mae gyda ni rhywbeth i ddweud [am hynny] ddydd Mercher”.