Mae dyn wedi marw yn dilyn ymosodiad yng Nghaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Y Rhath am oddeutu 2.20 fore heddiw.
Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae dau o bobol wedi’u harestio, ac mae ymchwiliad ar y gweill.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.