Mae rhybudd melyn am dywydd garw yn dal yn ei le dros Gymru gyfan wrth i’r Swyddfa Dywydd rybuddio am lifogydd, stormydd a gwyntoedd cryfion.

Mae’r rhybudd wedi’i ymestyn tan 6 o’r gloch fore Llun, ac maen nhw’n dweud y gallai’r tywydd garw ddifrodi cartrefi a busnesau.

Mae disgwyl hyd at 30mm o law ar y cyfan – a hyd at 80mm o fewn tair awr mewn mannau eraill – yn ystod y dydd heddiw.