Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dyn 57 oed mewn gwrthdrawiad nos Sadwrn.

Am oddeutu 12.20yb, daeth Range Rover arian oddi ar yr A40 rhwng twnneli Gibraltar a Llanddingad.

Bu farw’r gyrrwr yn y fan a’r lle.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.