Mae oedolyn a thri o blant yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ ym Mochdre yn Sir Conwy.
Cafodd yr eiddo ei ddinistrio’n llwyr yn y digwyddiad toc ar ôl 7.30 fore heddiw.
Dydy hi ddim yn glir a oedd y pedwar wedi cael anafiadau.
Cafodd dau eiddo cyfagos eu difrodi hefyd.
Mae ymchwiliad ar y gweill.