Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn Llanelwedd, mae Prif Weithredwr Maes y Sioe, Steve Hughson yn dweud bod y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru “wrth eu bodd” o gael cynnal y digwyddiad eleni.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed ar safle Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yr wythnos hon.

Mae’r ffaith iddo gael ei ddewis i gynnal dathliad mwyaf Cymru o’i hiaith a’i diwylliant yn destun balchder mawr i Steve Hughson, sy’n dysgu Cymraeg ac yn gyn-Brif Uwch Arolygydd Heddlu Dyfed-Powys.

Dywedodd: “Mae’r Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol ill dau yn ddigwyddiadau eiconig yng Nghymru, ac mae’r ddau hefyd yn cynnal yr iaith Gymraeg a’r diwylliant. Rydym wrth ein bodd fel cymdeithas i allu cynnal Eisteddfod yr Urdd ar Faes y Sioe fel rhan o’n cynllun i ddatblygu’n leoliad digwyddiadau mawr yn y dyfodol.”

O ffeiriau lleol i sioeau amaethyddol, mae Maes y Sioe yn cynnal nifer o ddigwyddiadau mawr drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys prif ŵyl Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Fodd bynnag, er mwyn gwireddu gweledigaeth Steve Hughson, mae ei isadeiledd yn cael ei drawsnewid.

“Mae yma gyfle i dyfu Maes y Sioe yn Faes Cenedlaethol Brenhinol Cymru, yn lleoliad digwyddiadau gwledig cenedlaethol yng Nghymru. Rydym yn gweithio’n galed i wella ei isadeiledd, cysylltedd, cyfathrebu, band llydan cyflym iawn ac ati. Bydd yr holl ddigwyddiadau hyn o fudd i economi Cymru.”

Technoleg

Fe fydd datblygiadau technolegol yn arbennig o bwysig ar y maes eleni, wrth i ddarllediadau S4C geisio rhoi gwell sylw i’r digwyddiad ar ei holl lwyfannau, megis tudalennau cyfryngau cymdeithasol Facebook, Twitter, Instagram a YouTube, lle mae S4C yn gobeithio cyfathrebu â gwylwyr drwy luniau, fideos a straeon fideo.

Ac mae manteision ehangach o ddod â’r digwyddiad i safle parod, yn ôl Steve Hughson.

“Yn hytrach na safle gwyrdd, lle mae angen i chi adeiladu’r holl isadeiledd, maen nhw eisoes yma ar y safle. Fel safle, mae’n debyg fod gyda ni fwy o adeiladau ar ein safle ni nag sy’n gan gymdeithasau eraill. Mae yma gyfle am effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ar gyfer yr Eisteddfod. Hoffem weld yr Eisteddfod yn dod yma eto.

“Yr hyn sydd gyda ni yma yw safle enfawr, 150 erw. Dydyn ni ddim yn rhagweld unrhyw broblemau parcio yn y tywydd gawson ni’n ddiweddar ac mae disgwyl i hynny barhau.”

Y Gadair

Yn ogystal â’i rol yn y trefniadau ymarferol, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru hefyd yn darparu’r prif gelficyn, y Gadair fawreddog, a fydd yn cael ei dyfarnu i’r Prifardd buddugol. Cafodd ei chreu yn lleol gan Gwilym Morgan allan o ddarn o goeden ywen 1,000 oed.

Ychwanegodd Steve Hughson, “Fel cymdeithas, fe wnaethon ni roi’r Gadair ar gyfer yr Urdd hefyd, sy’n rhywbeth rydym yn falch iawn ohoni. Gwnaethon ni ei dylunio hi gyda chymorth gwneuthurwr celfi lleol, a’i lansio yn Llandrindod. Rydyn ni wrth ein boddau gyda hi.”

Fe fydd Steve Hughson yn ymddangos ar raglen ‘Croeso i Eisteddfod yr Urdd’ sy’n cael ei chyflwyno gan Heledd Cynwal nos Sadwrn (S4C, 8.15pm).