Fe fydd cyfarfod yng Nghaernarfon heddiw (dydd Sadwrn, 26 Mai) i drafod dyfodol Y Fro Gymraeg.

Mudiad Dyfodol i’r Iaith sydd wedi trefnu’r cyfarfod yn y Galeri i ystyried effaith Brecsit ar ddyfodol y Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Rhan o’r drafodaeth fydd ystyried Arfor, awdurdod newydd yn y gogledd a’r gorllewin lle mae’r Gymraeg yn wynebu heriau.

Mae Cyfrifiadau diweddar yn dangos bod y Gymraeg yn colli tir yn ei chadarnleoedd, a bod allfudo ac ymfudo’n newid demograffeg cymunedau gwledig.

Mae’r cyfarfod yn dechrau am 11 o’r gloch.

Arfor

Fe fyddai Arfor yn un o’r “atebion radical” y mae Dyfodol i’r Iaith yn barod i’w hystyried yng nghadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg.

Fe fyddai’n gwasanaethu cymunedau Cymraeg yn y gogledd a’r gorllewin, sef Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin, gan ganolbwyntio ar gyflwr yr iaith, yr economi a’r diwylliant.

Yn ystod y cyfarfod, fe fydd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price yn rhannu ei weledigaeth ar gyfer cynllun Arfor.