Cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor fydd yn cyfarwyddo’r ffilm James Bond nesa’.

Mi wnaeth Danny Boyle raddio o’r brifysgol yn 1978 gyda gradd Saesneg a Drama, a bellach mae’n enwog am greu llu o ffilmiau llwyddiannus gan gynnwys Trainspotting a Slumdog Millionaire.

Bydd y gwaith cynhyrchu ar y ffilm yn dechrau ym mis Rhagfyr, ac mae disgwyl iddi fod yn y sinemâu ym mis Hydref 2019.

Yr actor Daniel Craig fydd ‘James Bond’ unwaith eto – y pumed tro – ac mae’n debygol mai dyma fydd ei ffilm Bond olaf.

Bydd yr actor yn cael £19 miliwn am ei waith.