Mae llywodraethwyr ysgol i blant rhwng pedair a deunaw oed ym Mhowys wedi penderfynu na fyddan nhw’n cau’r ffrwd Saesneg yno.

Yn wreiddiol, roedden nhw wedi bwriadu cau’r ffrwd yn Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth, oherwydd diffyg galw.

Ac ar ddechrau’r mis mi wnaethon nhw gytuno mewn egwyddor  i wneud hynny.

Ond, yn dilyn cyfarfod llawn neithiwr, mae’r llywodraethwyr wedi penderfynu cefnu ar y cynllun, oherwydd “pryderon” y gymuned.

Datganiad

“Yn dilyn Cyfarfod Llawn y Llywodraethwyr ar 24ain Mai, penderfynwyd peidio gwneud unrhyw newid ieithyddol i’r ysgol ym Medi 2018,” meddai datganiad y llywodraethwyr.

“Gwnaed hyn fel ymateb i bryderon a godwyd gan y gymuned. Bydd y llywodraethwyr yn cysylltu’n fuan gyda Phowys er mwyn cychwyn y broses o gasglu barn y gymuned leol a dalgylch yr ysgol.”

Yr ysgol

Mae Ysgol Bro Hyddgen wedi ei lleoli ar ddau safle ar gyrion tref Machynlleth, ac Awdurdod Addysg Powys sy’n gyfrifol amdano.

Mae tua 540 o ddisgyblion – rhwng 4 ac 18 blwydd oed – yn cael eu dysgu yno.