Mae tad a dau fab o Wynedd wedi cael eu dedfrydu i gyfnodau o garchar ar ôl eu cael yn euog o ddelio mewn cyffuriau Dosbarth A.
Fe ymddangosodd Nigel Glyn, 47 o Benrhyndeudraeth, ynghyd â’i feibion, Rhun, 20 oed, ac Evan, 18 oed, o flaen Llys y Goron Caernarfon heddiw (dydd Iau, Mai 24).
Maen nhw wedi cael u canfod yn euog o fod ym meddiant ac o ddosbarthu cyffuriau Dosbarth A, yn cynnwys cocên ac ecstasi.
Roedd un cyhuddiad yn ymwneud â digwyddiad lle aeth bachgen yn sâl ar ôl cymryd tabledi ecstasi o’r enw ‘Pink Teddy Bear’. Roedd wedi derbyn y tabledi mewn disgo i bobol ifainc yn y Bermo ym mis Rhagfyr 2016.
Fe ddaeth yr heddlu o hyd i gocên ac ecstasi yn eu cartref ym Mhenrhyndeudraeth hefyd.
Mae Rhun Glyn wedi derbyn tair blynedd o garchar, Evan Glyn dwy a hanner, a Nigel Glyn Jones pum mlynedd.